Mae CPD Llanllyfni yn chwarae eu gemau cartref i gyd ar Gae Chwarae Brenin Siôr V, Llanllyfni.
Sut i ddod o hyn i ni.
O Gaernarfon - Dilynnwch yr arwyddion A487, Porthmadog/Pwllheli, dewch i mewn i Fontnewydd, yma cymerwch yr ail lôn ar y gylchfan (A487), ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail lôn (am Bwllheli). Yn y gylchfan nesaf, cymerwch y lôn gyntaf (A487, Porthmadog). Ewch ymlaen ar yr A487, yn dilyn arwyddion am Lanllyfni, yn y ddau gylchfan nesaf, cymerwch yr ail lôn, yna cymerwch y lôn gyntaf yn y nesaf i ymuno â'r B4118 ac yna'r ail lôn yn y gylchfan nesaf. Wrth ddilyn y lôn yma, dewch i mewn i bentref Llanllyfni. Byddwch yn mynd heibio'r dafarn Y Chwarelwr ar y chwith, cymerwch y troiad nesaf ar y chwith, arwyddwyd Y Neuadd Goffa.
O Borthmadog - O ganol y dref, cymerwch yr ail lôn ar y gylchfan (wedi'w arwyddo Caernarfon, A487). Yn Nhremadog, cymerwch chwith yn y lôn-t. Ewch ymlaen ar yr A487, drwy Penmorfa, Dolbenmaen, Bryncir, a Pantglas. Yn y gylchfan, cymerwch y drydedd lôn sef y B4118 (wedi'w arwyddo, Penygroes), ac yna yr ail lôn ar y gylchfan nesaf. Wrth ddilyn y lôn yma, dewch i mewn i bentref Llanllyfni. Byddwch yn mynd heibio'r dafarn Y Chwarelwr ar y chwith, cymerwch y troiad nesaf ar y chwith, arwyddwyd Y Neuadd Goffa.